Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Communities, Equality and Local Government Committee

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Carwyn Jones AC / AM

Y Prif Weinidog

Bae Caerdydd / Cardiff Bay

 Caerdydd / Cardiff

CF99 1NA

                                                            

                              

 

28 Ionawr 2014

 

 

 

Annwyl Brif Weinidog

 

Diolch ichi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 4 Rhagfyr 2013 i roi tystiolaeth mewn perthynas â'ch cyfrifoldebau dros bolisi'r Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru.

 

Fel y gwyddoch, roedd canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn dangos bod canran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng o 20.8% yn 2001 i 19.0% yn 2011. Yn dilyn y cyfarfod ar 4 Rhagfyr, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu atoch yn amlinellu ei farn am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb, ac yn ymateb, i'r ystadegau hyn, ac yn bwrw ymlaen â'r polisi yn y maes hwn.  

 

Ar 4 Rhagfyr, fe wnaethoch ddweud wrthym am nifer o fentrau yr ydych wedi eu rhoi ar waith mewn ymateb i ffigurau'r Cyfrifiad, yn enwedig o ganlyniad i'r Gynhadledd Fawr. Fe wnaethoch hefyd gyfeirio at nifer o adolygiadau polisi, arolygon, a grwpiau gorchwyl a gorffen a sefydlwyd i lywio datblygiadau polisi yn y dyfodol yn y maes hwn, gan gynnwys y rhai ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith; y Gymraeg a'r economi; a'r Mentrau Iaith. Fe wnaethoch ddweud wrthym y byddai'r gwaith hwn yn bwydo i mewn i ddatganiad pellach a mwy manwl maes o law, ar ôl i'r dystiolaeth gael ei chasglu a'i dadansoddi.

 

Credwn fod potensial i'r gwaith hwn fynd peth o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â phryderon ynghylch dyfodol y Gymraeg. Rydym hefyd yn falch eich bod wedi cydnabod bod angen mynd i'r afael â'r materion hyn ar frys. Rydym yn bwriadu adolygu'r mater hwn yn rheolaidd ac fel rhan o hyn byddwn yn eich gwahodd i sesiwn graffu arall yn ystod tymor yr haf i drafod sut y mae'r gwaith hwn yn dod yn ei flaen.

 

Yn ogystal â'r uchod, gweler isod feysydd penodol o bolisi'r Gymraeg y bwriadwn gadw llygad arnynt, a'u trafod gyda chi eto maes o law. 

 

Y cynnydd o ran y strategaeth, Iaith Fyw: Iaith Byw

 

Mae'r Pwyllgor yn aros am adroddiad blynyddol i gael ei gyhoeddi ar y strategaeth ar gyfer y Gymraeg, Iaith Fyw, Iaith Byw, a bydd ganddo ddiddordeb mewn gweld sut y mae'n dangos cynnydd Llywodraeth Cymru tuag at gyflawni ei nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Rydym yn awyddus i drafod hyn gyda chi yn ein sesiwn ddilynol yn nhymor yr haf.

 

Yn benodol, nodwn mai dim ond cyfeiriadau at ffigurau Cyfrifiad 2001 sydd yn y strategaeth hon, a'i bod wedi'i llunio cyn bod ffigurau Cyfrifiad 2011 ar gael. Yn sgîl y newidiadau demograffig yn y cymunedau Cymraeg eu hiaith a amlygwyd gan ffigurau 2011, mae gennym ddiddordeb mewn cael eich barn ynghylch a yw'r strategaeth hon yn dal yn briodol ac yn ddigonol, neu a oes angen adolygu'r strategaeth erbyn hyn.

 

Y Gynhadledd Fawr

 

Rydym yn cydnabod y camau cyntaf y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a amlygwyd gan y Gynhadledd Fawr, a sefydlwyd gennych mewn ymateb i ffigurau Cyfrifiad 2011. Rydym yn credu bod gan y camau hyn, gyda'i gilydd, y potensial i gyflawni rhywfaint o newid cadarnhaol. Fodd bynnag, yn y cyd-destun hwn, byddem yn hoffi rhagor o wybodaeth am y canlyniadau penodol yr ydych yn disgwyl eu gweld yn sgîl y camau gweithredu cychwynnol a gyhoeddwyd gennych, a phryd y disgwyliwch iddynt gael eu cyflawni.

 

Yn ychwanegol at hyn, rydym yn croesawu eich ymrwymiad i wneud datganiad pellach ar y camau ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i'r Gynhadledd Fawr. Rydym yn edrych ymlaen at y datganiad hwn ac, yn benodol, at glywed rhagor o fanylion am yr amserlen ar gyfer gweithredu yn hyn o beth.

 

Prif ffrydio'r Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru

 

Fe wyddoch, yn dilyn ein gwaith craffu ar gyllideb ddrafft 2014-15, ein bod yn feirniadol o ddull Llywodraeth Cymru o asesu effaith y dyraniadau cyllideb ar y Gymraeg, yn enwedig gan fod y cyllid ar gyfer y Gymraeg wedi ei gwtogi mewn rhai meysydd. Codwyd y pryder hwn gennym mewn llythyr i'r Gweinidog Cyllid ar 29 Hydref 2013, yn dweud  “bod angen dull mwy systematig er mwyn sicrhau y caiff penderfyniadau cyllidebol a pholisïau eu hasesu o safbwynt eu heffaith ar y Gymraeg.”

 

Yn y cyd-destun hwn, fe wnaethoch gyfeirio at Gynllun Gwella a oedd yn cael ei lunio i ymgorffori ystyriaethau mewn perthynas â'r Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru, ac i asesu effaith penderfyniadau ar yr iaith. Fe wnaethoch ddweud bod rhan bwysig o hyn yn cynnwys penodi swyddogion yn 'hyrwyddwyr iaith' o fewn adrannau. Rydym yn edrych ymlaen at fynd ar drywydd y datblygiadau hyn maes o law, ac i glywed mwy gennych am y canlyniadau sydd wedi deillio o'r Cynllun Gwella yn hyn o beth.

 

Fe wnaethoch ddweud wrthym hefyd eich bod yn paratoi "i roi system lawer iawn mwy trylwyr at ei gilydd" o ran sut y mae gwariant yn effeithio ar y Gymraeg. Hoffem gael rhagor o fanylion gennych am hyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Cyllideb a rôl Comisiynydd y Gymraeg

 

Yn ei chyfarfod gyda'r Pwyllgor ar 14 Tachwedd 2013, cododd Comisiynydd y Gymraeg beth pryder am effaith y gostyngiad o 10% yn ei chyllideb ar gyfer 2014-15 ar waith ei swyddfa. Pan holwyd chi ar y mater hwn, eich ateb oedd bod y gyllideb, er gwaethaf y gostyngiad, yn parhau i fod yn sylweddol ac y gall y Comisiynydd ymdopi gyda'r gyllideb honno.

 

Er ein bod yn cydnabod bod gostyngiadau yn y gyllideb yn symptom o'r hinsawdd ariannol bresennol, rydym yn awyddus i wybod sut y mae'r gostyngiad o 10% yng nghyllideb y Comisiynydd yn cymharu â'r gostyngiadau canrannol ar draws meysydd gwariant eraill. Felly, byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth gennych am y gwaith a wnaed i asesu effaith y gostyngiad hwn ar rôl y Comisiynydd, yn enwedig o ystyried y ffaith y bydd safonau mewn perthynas â'r Gymraeg yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2014-15 fel rhan o'r gwaith o weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

O ran rôl ehangach Comisiynydd y Gymraeg, rydym yn nodi bod eich papur yn esbonio bod y Cytundeb Fframwaith sy'n rheoli'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Comisiynydd yn cael ei adolygu, ac y bydd, gobeithio, yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Fe wnaethoch ddweud wrthym mai nawr oedd yr amser priodol i ystyried a yw'r trefniadau yn addas o ran pwy sy'n arwain ar yr elfennau o bolisi'r Gymraeg, a'r ffordd y mae'r Comisiynydd a Llywodraeth Cymru yn cydweithio, yn enwedig o ran hyrwyddo a hwyluso'r iaith. Rydym yn edrych ymlaen at weld y Cytundeb Fframwaith newydd yn cael ei gyhoeddi yn hyn o beth.    

 

Cymunedau, cynllunio a mudo

 

Rydym yn nodi bod yr adroddiad cynnydd diweddaraf ar eich Rhaglen Lywodraethu (Gorffennaf 2013) yn cydnabod effaith mudo ar y Gymraeg. Fel y cyfryw, rydym yn croesawu'r ffaith fod fersiwn ddiwygiedig o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20:  Cynllunio a'r iaith Gymraeg, wedi'i chyhoeddi ym mis Hydref 2013 gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Fe wnaethoch ddweud wrthym y byddai disgwyl i awdurdodau lleol ystyried TAN 20 yn gynnar yn y broses o baratoi cynlluniau datblygu lleol ac wrth adolygu'r cynlluniau hynny.

 

Pan glywsom gan Gomisiynydd y Gymraeg, pwysleisiodd mor bwysig oedd cael "canllawiau clir" i awdurdodau lleol mewn perthynas â chymhwyso'r TAN 20 diwygiedig. Cyfeiriodd hefyd at "nerfusrwydd" ymysg rhai cynllunwyr sydd yn "teimlo nad yw’r arfau gyda nhw i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth”. I'r perwyl hwn, rydym yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau cynllunio, ond rydym am gael eglurhad gennych ynghylch sut y bydd hyn yn gwneud y disgwyliadau ar awdurdodau yn glir mewn perthynas â'r TAN diwygiedig a’r broses o adolygu cynlluniau datblygu lleol. Byddem hefyd yn hoffi cael rhagor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer datblygu a chyhoeddi'r canllawiau hyn.

 

Mewn perthynas â hyn, rydym yn nodi bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i edrych ar ddyfodol cymunedau Cymraeg wedi cyhoeddi ei adroddiad yn dilyn ein cyfarfod ar 4 Rhagfyr 2013. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ddweud tua pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r adroddiad hwn.

 

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

 

Gan ymateb i bryderon a godwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg nad yw'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at y Gymraeg, rydym yn nodi eich awgrym mai is-ddeddfwriaeth yw’r lle mwyaf priodol ar gyfer hyn.  Mae gennym ddiddordeb mewn clywed rhagor gennych ynghylch pam eich bod o'r farn honno.

 

Yn y cyd-destun hwn, rydym yn dal yn bryderus am y cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant cyfrwng Cymraeg o fewn y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a materion sy'n ymwneud ag argaeledd gweithlu sy'n siarad Cymraeg. Rydym yn nodi eich barn ei bod yn ddyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod niferoedd digonol yn y gweithlu sy'n gallu darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ddarparu'r adnoddau angenrheidiol i hwyluso hyn. Fodd bynnag, hoffem gael rhagor o wybodaeth oddi wrthych am y trefniadau sydd ar waith i fonitro hyn, er mwyn sicrhau bod cleifion yn medru cael gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â gofal personol, trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Datblygu cynaliadwy

 

Tynnwn eich sylw at Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2012-13 lle y mae'n datgan bod ei hymateb i'r Papur Gwyn ar y Bil Datblygu Cynaliadwy yn nodi "nad oedd diffiniad y Llywodraeth o ddatblygu cynaliadwy yn hollol eglur o safbwynt y Gymraeg, ac nad oedd y pwyslais ar y Gymraeg yng nghyd-destun ehangach datblygu cynaliadwy yn ddigon cadarn." Byddem yn croesawu eich ymateb i feirniadaeth y Comisiynydd ynghylch sut y mae'r Gymraeg yn berthnasol i ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o safbwynt datblygu cynaliadwy.

 

Dechrau'n Deg a chysylltiadau â'r agenda trechu tlodi

 

Yn ystod ein cyfarfod, crybwyllwyd y pwysigrwydd o sicrhau darpariaeth feithrin a chyn-ysgol ddigonol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn perthynas â hyn, byddem yn croesawu rhagor o fanylion am y gwaith yr ydych yn ei wneud i sicrhau bod Dechrau'n Deg yn gweithio gydag addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy cyffredinol, ac yn cael ei gydlynu â hi.

 

Addysg cyfrwng Cymraeg

 

Rydym yn gwybod bod yr Adroddiad Blynyddol ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gyfer 2012-13 yn nodi mai “ychydig iawn o gynnydd a wnaed yn erbyn targedau’r strategaeth” a'i bod yn “annhebygol” y cyrhaeddir y targed o 25% o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2015. I'r gwrthwyneb, fe wnaethoch ddweud wrthym eich bod o'r farn bod y targed hwn yn fwy na chyraeddadwy. Rydym yn pryderu ei bod yn ymddangos bod gwahaniaeth barn o fewn Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, a hoffem ragor o wybodaeth gennych mewn perthynas â hyn.

 

Ar fater cysylltiedig, pwysleisiodd Comisiynydd y Gymraeg yn gryf bod angen sicrhau gwell dilyniant o fewn y system addysg cyn belled ag y mae sgiliau iaith Gymraeg yn y cwestiwn. Fe wnaethoch ddweud wrthym fod y “linc rhwng sgiliau, yr economi a chymunedau Cymraeg yn rhywbeth rydym yn edrych arno ar hyn o bryd” ac y bydd yn un o’r elfennau a fydd yn rhan o ddatganiad pellach yn y gwanwyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld pa gamau penodol y bydd hyn yn ei olygu, ac rydym yn bwriadu trafod y mater hwn gyda chi eto yn ein sesiwn ddilynol yn ystod tymor yr haf.

 

Hefyd, tynnodd Comisiynydd y Gymraeg sylw at yr angen am sicrhau bod pobl ifanc yn defnyddio'r iaith yn amlach mewn cyd-destunau cymdeithasol. Yr oeddech yn cytuno bod hwn yn fater yr oedd angen mynd i'r afael ag ef, gan awgrymu y gallai darparu mwy o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i'r ysgol, a mwy o gyfleoedd i ddefnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg, fod yn ffordd o wneud hyn. Fodd bynnag, ni wnaethoch unrhyw gyfeiriad yn y cyd-destun hwn at ofyn i ysgolion am y rhwystrau a'r materion hynny sy'n atal disgyblion rhag siarad Cymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Rydym yn credu bod hwn yn faes lle gellid gwneud gwaith pellach, a hoffem glywed rhagor gennych maes o law am y camau yr ydych wedi'u cymryd i ddarparu'r cyfleoedd hyn, a beth oedd y canlyniadau. 

 

Yn olaf, buom yn trafod y pwysigrwydd o roi profiad cadarnhaol i'r holl blant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd, o ystyried ei photensial i liwio'u barn am y Gymraeg yn y dyfodol. Er ein bod yn cydnabod bod elfen gystadleuol yr Urdd yn bwysig, hoffem ichi ystyried beth yw’r ffordd orau o wobrwyo ymdrechion y rhai hynny nad ydynt yn fuddugol.

 

Byddaf yn ysgrifennu ar wahân atoch ynghylch sesiwn graffu bellach i fynd ar drywydd y cynnydd gyda'r meysydd penodol o bolisi'r Gymraeg y cyfeiriwyd atynt uchod. Yn y cyfamser, yr wyf yn edrych ymlaen at dderbyn ymateb ysgrifenedig oddi wrthych.

 

Yn gywir

 

 

 

Christine Chapman AC / AM

Cadeirydd / Chair